Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A – Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mawrth 2018
Amser: 09.00 - 16.05
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Martin Jennings, Arweinydd y Tîm Ymchwil |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams, Clerc Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.
1.3 Nododd y Bwrdd y datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth ynghylch ei waith ar ddatblygu polisi urddas a pharch. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau perthnasol ar waith ar gyfer staff cymorth unwaith y derbyniwyd y polisïau ar gyfer Aelodau er mwyn sicrhau bod y ddau bolisi yn gyson.
1.4 Cytunodd y Bwrdd i adolygu sut mae'n ymgysylltu â'r Grwpiau Cynrychioliadol.
1.5 Trafododd y Bwrdd y dyddiadau cyfarfod dros dro a'r flaenraglen waith ddrafft hyd at fis Gorffennaf 2020 a chytunodd i edrych ar y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2018-19
2.1. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law ar y cynigion i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant yn unol â ffigurau 2017 dros dro ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru.
2.2. Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant.
Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19
2.3. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar y cynigion i:
- gynyddu lwfans costau swyddfa 5 y cant yn unol â chyfradd CPI ar gyfer mis Medi 2017 ac i fynd i'r afael â'r galw am gostau cynyddol y disgwylir i Aelodau eu hariannu o'u cyllidebau;
- cynnig lwfans heb ei gapio a fydd yn cael ei gyfyngu i'r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i Aelodau weithredu argymhellion diogelwch.
2.4. Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r lwfans costau swyddfa 5 y cant ar gyfer 2018-19 a'r darpariaethau newydd ar gyfer gweithredu argymhellion diogelwch.
Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer 2018-19
2.5. Trafododd y Bwrdd yr ymateb i'r ymgynghoriad ar ei benderfyniad y dylid cynnal y lwfans presennol ar gyfer Aelodau y tu allan i'r ardal o £9,200 y flwyddyn/£775 bob mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn a'r uchafswm o gostau rhent i Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.
2.6. Cytunodd y Bwrdd i gynnal y darpariaethau o fewn y Penderfyniad ar gyfer y lwfans ond i ystyried y materion a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Camau gweithredu:
Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ystod darnau perthnasol o waith.
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- gyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig;
- ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2018-19.
3.1. Nododd y Bwrdd, yn sgil gweithredu diwydiannol diweddar a'r tywydd gwael, nid oedd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi gallu dod i'r cyfarfod i drafod yr adroddiad.
3.2. Trafododd y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ei gyfarfod ym mis Mai i drafod camau nesaf yr adolygiad.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i'w gyfarfod ym mis Mai.
4.1. Adolygodd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn erbyn y pedair blaenoriaeth strategol y cytunwyd arnynt yn ei adroddiad ym mis Ionawr 2017.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o'i benderfyniad yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2017-18.
5.1. Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma ar gyfer adolygu cymorth staffio i Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen eu hystyried ymhellach a pha faterion y gellid mynd i'r afael â nhw yn gynt.
5.2. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y materion canlynol ar unwaith:
- cyllidebu Lwfans Staffio ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;
- cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar eu Lwfans Staffio;
- dileu'r cap o 111 awr ar gyfer staff cymorth a gyflogir yn barhaol;
- cynyddu'r hyblygrwydd o drosglwyddo arian rhwng cyllidebau.
5.3. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai dydd Gwener 11 Mai 2018.
5.4. Cytunodd y Bwrdd i edrych eto ar faterion eraill a nodwyd yn ystod yr adolygiad yn ei gyfarfod ym mis Mai.
Camau i'w cymryd
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.